Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
25 Chwefror 2026
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15759
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Atebwyd cwestiwn 8 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gwnaeth Laura Anne Jones ddatganiad ar - Ymgyrch Mind Your Head gan Yellow Wellies.
Gwnaeth Jeremy Miles ddatganiad ar - Teyrnged i gyd-sylfaenydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Trust - Martyn Butler.
Dechreuodd yr eitem am 15.23
NDM9168 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NDM9171 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Trothwyon Rheolau Sefydlog’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NDM9170 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes,
‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Grwpiau gwleidyddol a grwpiadau
(Rheolau Sefydlog 1.3 ac 11.3)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar
18 Chwefror 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir
yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NDM9167 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Dirprwy Lywydd ychwanegol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.25
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM9169 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
12 |
45 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.31
NDM9153 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Deithio Llesol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2025.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2026.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.09
NDM9152 Peter Fox (Mynwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Ymchwiliad i wasanaethau offthalmoleg yn Nghymru’ a osodwyd ar 28 Tachwedd 2025.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2026.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM9164 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y pwysau parhaus ar y GIG yng Nghymru, gan gynnwys amseroedd aros gormodol am driniaeth, oedi o ran ymateb ambiwlansys, adrannau brys gorlawn, a'r defnydd o ofal mewn coridor;
b) pryderon a godwyd gan glinigwyr a chleifion ynghylch diogelwch a chapasiti ar gyfer cleifion ar draws system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru; ac
c) yr angen am weithredu brys, system gyfan i adfer perfformiad a hyder y cyhoedd.
2. Yn gresynu bod perfformiad y GIG yng Nghymru, ar ôl 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig o ran amseroedd aros a mynediad at driniaeth.
3. Yn credu bod maint yr her yn gofyn am ymateb brys i gynyddu capasiti, gwella llif cleifion a chryfhau gwytnwch ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datgan argyfwng iechyd cenedlaethol i sbarduno gweithredu ar unwaith ar draws y GIG a gofal cymdeithasol;
b) ailagor wardiau ysbytai cymunedol caeedig i ddarparu gofal cam-i-lawr ac adsefydlu, a gwella llif cleifion;
c) adolygu a chynyddu capasiti gwelyau ysbyty a darpariaeth ymchwydd;
d) sefydlu tîm adfer pwrpasol i GIG Cymru i hyrwyddo gwelliannau mewn amseroedd aros a pherfformiad gofal brys;
e) dod â'r arfer o ofal mewn coridor i ben a dynodi aros 12 awr mewn adrannau brys fel digwyddiadau "byth";
f) gwella recriwtio, cadw a hyfforddi meddygon, deintyddion, nyrsys a bydwragedd;
g) ehangu canolfannau llawfeddygol a chapasiti diagnostig i leihau rhestrau aros;
h) gwella mynediad at wasanaethau meddygon teulu, gan gynnwys argaeledd apwyntiadau saith diwrnod; ac
i) cyhoeddi cynllun gweithlu a seilwaith hirdymor i foderneiddio'r GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
35 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi
a) buddsoddiad mwy nag erioed Llywodraeth Cymru yn GIG Cymru, sy’n golygu bod Cymru'n gwario 9 y cant yn fwy y pen ar iechyd nag yn Lloegr;
b) bod y rhestr aros ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gostwng am saith mis yn olynol a bod arosiadau dwy flynedd ar eu hisaf ers mis Chwefror 2021;
c) bod oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys bron chwarter yn is ym mis Ionawr 2026 o'i gymharu â blwyddyn yn ôl; a
d) bod y nifer uchaf erioed o staff clinigol yn cael eu cyflogi yn y GIG.
2. Yn croesawu'r camau sydd wedi’u cymryd i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd yn y GIG, gan gynnwys fframweithiau uwchgyfeirio newydd ar gyfer y byrddau iechyd a’r cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus gyda sefydliadau GIG Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
34 |
47 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwrthodwyd gwelliant 1
Gwelliant 2 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn credu y dylai'r GIG bob amser aros yn ddi-dâl ar y pwynt cyflwyno.
Yn gresynu bod 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru gyda chefnogaeth Plaid Cymru wedi arwain at rai o ystadegau gwaethaf y GIG yn y Deyrnas Unedig.
Yn cydnabod, yn ôl ystadegau iechyd diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror:
a) bod perfformiad ymateb ambiwlansys wedi gwaethygu ar gyfer amseroedd ymateb galwadau coch canolrifol a 90ain canradd yn ogystal ag amseroedd ymateb galwadau porffor y 90ain canradd;
b) bod rhestrau aros dwy flynedd y GIG yng Nghymru yn parhau i fod bron i 24 gwaith yn hirach na'r rhestr gyfatebol yn Lloegr, er gwaethaf eu poblogaeth sylweddol uwch; ac
c) bod 11,392 o gleifion wedi aros dros 12 awr mewn adrannau brys yng Nghymru ym mis Ionawr, er gwaethaf y ffaith mai'r targed yw dim cleifion yn aros dros 12 awr.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau
rhestrau aros y GIG a gwella perfformiad y GIG drwy:
a) cynnal adolygiad cynhwysfawr o drefniadau llywodraethiant,
arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng
Nghymru, gyda'r bwriad o gryfhau goruchwyliaeth, gwella
perfformiad, a sicrhau safonau gofal cyson i gleifion; a
b) torri gwastraff a biwrocratiaeth i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cyrraedd rheng flaen y GIG.
Cyd-gyflwynwyr
Laura
Anne Jones (Dwyrain De Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
2 |
0 |
44 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Heledd
Fychan (Canol De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2
a rhoi’n ei le:
Yn gresynu:
a) at effaith polisïau llymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ar ganlyniadau iechyd yng Nghymru; a
b) at effaith Brexit ar brisiau cyffuriau ar gyfer y GIG
Yn credu bod Llafur a’r Ceidwadwyr wedi dangos eu bod yn gwbl anaddas fel gwarchodwyr y GIG.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithredu adroddiad Plaid Cymru ar ddiwygiadau llywodraethiant yn y GIG, ‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’;
b) gweithredu cynllun Plaid Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng rhestrau aros Llafur, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025;
c) hyrwyddo datblygiad y rhaglen i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, a ddechreuwyd gan Blaid Cymru;
d) cryfhau gofal sylfaenol drwy gynyddu’r gyfran o gyllideb Cymru sy’n cael ei gwario ar Wasanaethau Meddygol Cyffredinol ac adolygu’r fformiwla Carr-Hill; ac
e) cyflwyno diwygiadau deddfwriaethol i fynd i’r afael ag oediadau rhyddhau cleifion o’r ysbyty gan ryddhau llefydd gwelyau sbâr yn fwy effeithlon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.43
NDM9166 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adrannau 1 - 6;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 7 - 12;
d) Teitl hir.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.43
Dechreuodd yr eitem am 17.48
NDM9165 Buffy Williams (Rhondda)
Cymoedd actif, bywydau iachach - sut y gall chwaraeon llawr gwlad a chymunedol newid bywydau.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.10
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2026